New Hackathon
Rydym yn llawn cyffro o allu cyhoeddi sesiwn Hacathon arall i chi fod yn rhan o fuddion cymunedol cyffrous Canolfan Ganser newydd Felindre.
Ar 7 Hydref byddwn yn cynnal sesiwn ddilynol i archwilio mentrau cymunedol sy'n gysylltiedig â'r prosiect.
I gofrestru eich diddordeb, cliciwch yma. Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn ar-lein hon er mwyn bod yn rhan o'r sgwrs barhaus!
Nid dyma'r unig gyfle i gymryd rhan a bydd yna ddigonedd o ddigwyddiadau a fforymau eraill i chi gynnig eich syniadau a'ch barn ynddynt.
Daw hyn yn dilyn llwyddiant mawr ein hacathon diweddar, pan aethpwyd ati i archwilio mentrau cymunedol perthnasol i’r prosiect. Daeth 45 o bobl o wahanol sefydliadau a sectorau, gan gynnwys y gwasanaethau cyhoeddus, addysg, y trydydd sector a’r gadwyn gyflenwi, i’r digwyddiad cyntaf a chyfrannu syniadau.
Yn cael ei hwyluso gan dîm Dechreuwch Rywbeth Da Cwmpas, daeth yr hacathon ag unigolion brwd ynghyd i drafod safbwyntiau a datblygu syniadau arloesol i gefnogi Canolfan Ganser Felindre. Rydym 'nawr yn llawn cyffro ynghylch parhau â'r momentwm hwn gyda sesiwn ddilynol awr o hyd i archwilio'r syniadau ymhellach ac awgrymu rhai newydd.
Edrychwn ymlaen at eich gweld bryd hynny!
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.