Asset Publisher

04/08/2026

Myfyrwyr Canolfan Marion yn archwilio gyrfaoedd yng Nghanolfan Ganser Newydd Felindre

Mwynhaodd myfyrwyr o Ganolfan Marion yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf yng Nghaerdydd ymweliad â Chanolfan Ganser Newydd Felindre, lle buont yn dysgu am y diwydiant adeiladu a’r gyrfaoedd y mae’n eu cynnig.

Wedi’i drefnu gan Gynghorydd Ymgysylltu â Busnes Gyrfa Cymru, Adrien Cole, a’i gefnogi gan Dîm Buddion Cymunedol Sacyr UK, bu i’r ymweliad groesawu myfyrwyr o amryw o oedrannau ac anghenion dysgu. 

Rhoddodd Joanne O’Keefe, y Cydlynydd Buddion Cymunedol, gyflwyniad rhyngweithiol i’r myfyrwyr yn cyflwyno hanes y prosiect a thaith Canolfan Ganser Newydd Felindre, o’r camau cynllunio cychwynnol i’r gwaith adeiladu a’r weledigaeth ar gyfer y cyfleuster gorffenedig. Bu i’r myfyrwyr hefyd ddarganfod nifer o gyfleoedd o ran gyrfa yn y diwydiant adeiladu, gan gynnwys rolau megis adeiladwyr, trydanwyr, plymwyr, peirianwyr a phenseiri.

Ffocws allweddol y sesiwn oedd cynaliadwyedd, gyda’r myfyrwyr yn dysgu am ddeunyddiau adeiladu arloesol megis concrit cywarch (hempcrete), pren a cherrig gabion, ochr yn ochr ag ymrwymiad y prosiect i ddiogelu bywyd gwyllt, cynefinoedd a bioamrywiaeth lleol trwy gydol y gwaith adeiladu.

Yn dilyn y cyflwyniad, gwisgodd y myfyrwyr eu cyfarpar diogelu (PPE) ac, ar ôl briff ar ddiogelwch, aethant allan am daith dywys o amgylch y safle gyda’u hathrawon ac aelodau o dîm y prosiect. Trwy weld y safle adeiladu ar waith, daethpwyd â’r cyflwyniad yn fyw, gyda’r myfyrwyr yn gweld peiriannau mawr, gweithgareddau adeiladu a mesurau diogelu’r amgylchedd, gan gynnwys trefniadau i ddiogelu bywyd gwyllt a rheoli rhywogaethau planhigion ymledol.

Daeth y diwrnod i ben gydag arddangosiad ymarferol diddorol o fwrdd cylched trydanol a gyflwynwyd gan yr isgontractwr FP Hurley Electrical, gan roi cyfle i’r myfyrwyr archwilio sgiliau ymarferol sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant.

Roedd yr ymweliad yn brofiad gwerthfawr a phleserus, gyda llawer o’r myfyrwyr yn gadael wedi’u hysbrydoli gan yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu.