Asset Publisher

12/03/2025

Dathlu Carreg Filltir yn y Diwydiant Adeiladu yn y DU: Tair Menyw yn Arwain y Ffordd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod!

Ar flaen y gad o ran prosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre, mae Sacyr yn falch o fod wedi creu hanes gyda thair menyw yn arwain y ffordd. Mae Maria Ortega Carreras, Elena Castro Blanco, a Belén Lerma Inguanzo yn dal y rolau arweinyddiaeth allweddol Cyfarwyddwr Prosiectau, Cyfarwyddwr Adeiladu, a Rheolwr Adeiladu, yn y drefn honno, sy’n arwyddocaol am mai dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn y diwydiant.

 

I ddathlu ‘Wythnos Menywod ym Maes Adeiladu 2025’, bu i Sacyr gydweithredu â’i bartner gwerthfawr yn y gadwyn gyflenwi ‘SGM Waste Management’ i ddylunio sgip a oedd yn arddangos talent a sgiliau menywod sy’n rhan o’r prosiect ac yn meithrin ymwybyddiaeth o’r ystadegau gwych o gymharu â’r cyfartaledd ledled y DU.

 

Mae Sacyr yn creu hanes yn y sector adeiladu trwy fod yn arweinydd amlwg o ran amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith y rhywiau. Gyda chyfanswm nodedig o 30% o’r gweithlu yn fenywaidd yn nhîm prosiect canolfan ganser newydd Felindre, mae hyn wedi dyblu cyfartaledd y diwydiant yn y DU, sef cynrychiolaeth o 15% o blith menywod ym maes adeiladu. Trwy ei bartneriaeth â Chonsortiwm Acorn, yn cynnwys Kajima, abrdn, a Banc Datblygu Cymru, mae Sacyr yn chwalu rhwystrau ac yn profi nad oes yna nenfydau gwydr mewn golwg ar gyfer menywod yn y diwydiant adeiladu, gan osod safon newydd ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau.