Megan case study
Dyma Megan Morgan. Yn ddim ond 18 oed, mae'n bosibl mai hi yw'r prentis bancsmon craeniau a gweithrediadau craeniau benywaidd ieuengaf yn y DU. Mae'n helpu i adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre — a hefyd yn gwthio ffiniau rhywedd yn y diwydiant adeiladu
Mae'n ifanc, ac yn gwneud ei marc mewn byd adeiladu a ddominyddir gan ddynion. Yn rôl prentis bancsmon craeniau a gweithredwr craeniau i'r is-gontractwr MPS Crane Operators, mae'n helpu i adeiladu cyfleuster o'r radd flaenaf yn ei dinas enedigol, ac yn mwynhau pob munud.
Dywed Megan, o Gaerdydd, wrthym: “Gwnes i gwrs aml-sgiliau, ynghyd â gwaith coed, yn y coleg ac yna dywedais wrth fy Nhad, sydd hefyd yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, fod arnaf angen newid ac nad oeddwn yn gwybod beth i'w wneud. Dywedodd, 'Wel, pam na wnei di fod yn fancsmon craeniau?', a meddyliais 'O, wel waeth i fi roi cynnig ar wneud hynny', a dyma fi!”
Ac roedd awgrym ei thad yn un da, oherwydd mae Megan yn ffynnu. Yn rôl bancsmon craeniau, mae'n rhwymo llwythi'n ddiogel wrth graeniau ac yn cyfarwyddo'r gweithrediadau codi gan ddefnyddio signalau llaw neu radio, gan chwarae rhan allweddol o ran sicrhau diogelwch ar safleoedd adeiladu.
Esboniodd Megan: “Rwy’n mwynhau gweithio yn y diwydiant adeiladu yn fawr iawn. Mae'n brofiad da, mae'n edrych yn dda ar eich cymwysterau, ac mae digon o waith bob amser felly bydd gennych rywbeth wrth gefn o hyd.”
Roedd y newid o fod yn ddiwaith i waith llawn-amser yn gam mawr, ond dywed Megan: “Ar ôl i chi sefydlu trefn mae'n berffaith. Mae gweithio yn eich helpu i gadw’n drefnus.”
Er bod prosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre ar hyn o bryd yn ymfalchïo o fod ag un o'r cymarebau uchaf yn y DU o ran menywod yn y diwydiant adeiladu, nid yw bod mewn lleiafrif ar y safle wedi ei phoeni, yn enwedig gyda'i Thad o gwmpas.
“Gan fod fy Nhad yn gweithio yma ac maen nhw'n ei barchu, dydw i ddim yn cael llawer o sylwadau mewn gwirionedd. Gall fod yn frawychus, ond mae'n rhaid i chi adael i'r peth fynd os yw rhywun yn dweud rhywbeth negyddol, a'i gyfeirio yn ôl. Dangoswch nad ydych yn poeni, a byddan nhw'n gadael llonydd i chi yn fuan.
“Mae yna heriau yn amlwg. Yn y bôn, am fy mod yn ferch, rwy'n teimlo bod yn rhaid i mi wneud mwy i brofi y gallaf gyflawni'r gwaith. Ond fy nghyngor i fyddai, os ydych yn fenyw ifanc ac am roi cynnig ar y gwaith, yna gwnewch y gorau y gallwch ei wneud. Mae rhai o’r menywod yn well na’r dynion”, ychwanegodd Megan.
“Os oes gennych syniad neu freuddwyd, ewch amdani, mae unrhyw beth yn bosibl. Os ydych yn teimlo pwysau, ceisiwch ei anwybyddu. Dyfal donc yn fy marn i. Os oes gennych freuddwyd neu os ydych am fod yn fancsmon craeniau, ewch amdani, dilynwch eich breuddwyd. Mae mynd i fod yn anodd, ond daliwch ati ac yn sydyn bydd pethau'n haws — a meddyliwch am yr arian y gallwch ei ennill.”
Beth sy'n cynnal ei chymhelliant? “Mae pob dydd yn ddiwrnod newydd, felly ewch yn eich blaen a gobeithio am y gorau. Pan fydd gennych y profiad, gallwch fynd yn bell iawn. Gallwch fynd i wledydd eraill a dysgu rhagor. Dw i'n brawf y gall merched weithio yn y diwydiant adeiladu. Nid amgylchedd i fechgyn yn unig ydyw, gall merched wneud y gwaith hefyd."
Mae ganddi hyder newydd hefyd, diolch i'w swydd: “Pan sylweddolais gyntaf y byddwn yn siarad ar y radio â gweithwyr eraill, roeddwn i'n teimlo, ‘O, mae’n rhaid i mi siarad â dieithryn ar hap? O na!', ond y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw gofyn i yrrwr y craen beth yw ei enw a dechrau sgwrs. Mae'n rhaid i chi ddod i adnabod y bobl o'ch cwmpas. Roeddwn i'n arfer bod yn swil, ond mae'r swydd hon yn eich tynnu o'ch cragen.”
Bydd Megan ac MPS ar y safle trwy gydol cyfnod prosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre nes bod y gwaith craeniau wedi dod i ben. Mae Sacyr UK yn dymuno’r gorau iddi hi a thîm MPS gyda’u prosiect nesaf ac yn gobeithio gweld Megan yn amlach wrth iddi barhau â’i thaith yn y diwydiant Adeiladu.
____
O'r chwith i'r dde: Aaran Morgan (brawd Megan), Graham Thomas (ei Thad) a Megan.
