Sacyr UK yn creu partneriaeth â chylchgrawn cymunedol arobryn
Mae Sacyr UK wedi creu partneriaeth â chylchgrawn Whitchurch and Llandaff Living i helpu i hyrwyddo'r gwaith sy'n mynd rhagddo o godi Canolfan Ganser newydd Felindre.
Mae’r prif gontractwr sy’n goruchwylio’r gwaith o adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre ar hyn o bryd, wedi ymuno â’r cylchgrawn cymunedol arobryn i ymgysylltu â phobl leol a sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect yn cael ei rhoi trwy flychau llythyrau’r rhai sy’n byw gerllaw.
Dywedodd Patric Morgan, cyd-olygydd cylchgronau Living: “Rydym wrth ein bodd bod newyddion Sacyr UK yn cael ei gynnwys rhwng cloriau ein cylchgrawn. Mae prosiect Canolfan Ganser newydd Felindre wedi bod yn destun trafod mawr dros y blynyddoedd, felly rydym yn hapus i roi'r newyddion diweddaraf i'n darllenwyr am y gwaith adeiladu. Mae’r gwaith adeiladu wedi cael effaith fawr ar y gymuned, ond rydym yn gwybod y bydd yr effaith y bydd y ganolfan yn ei chael ar gleifion canser hyd yn oed yn fwy.”
Dywedodd Katie Hathaway, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Budd i'r Gymuned ar gyfer Sacyr: “Cylchgronau Living Caerdydd yw’r unig gyhoeddiad gwirioneddol leol sy'n darparu gwybodaeth i ardal Gogledd Caerdydd felly i ni, roedd y penderfyniad i gydweithio yn un amlwg. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda chyhoeddiad poblogaidd i gyflwyno newyddion am ein prosiect i’r gymuned leol yn effeithiol.”
Dosberthir chwe mil o gopïau o Whitchurch and Llandaff Living ledled yr Eglwys Newydd, Llandaf, ac Ystum Taf, a hynny bedair gwaith y flwyddyn. Gall darllenwyr gael gafael yn y cylchgrawn yn rhad ac am ddim o'r stondinau pwrpasol yn Tesco Express (yr Eglwys Newydd), Co-op (yr Eglwys Newydd), a phob siop a man cyhoeddus arall.
