Asset Publisher

28/04/2025

Yr Elusen Lighthouse

Ymwelodd Lighthouse, yr Elusen Adeiladu, ag aelodau staff Sacyr UK, sef y contractwr sy’n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre, i helpu i feithrin ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt pe byddai arnynt eu hangen. 

Mae Lighthouse yn elusen sy’n darparu cymorth llesiant emosiynol, corfforol ac ariannol i’r sawl sydd yn y diwydiant adeiladu, yn ogystal â’u teuluoedd. Cydnabyddir bod adeiladu yn un o ddiwydiannau’r DU y mae iddo'r cyfraddau uchaf o hunanladdiadau, gyda'r ystadegau’n amlygu bod o leiaf ddau weithiwr adeiladu yn y DU yn gwneud amdanynt eu hunain bob diwrnod gwaith. Hefyd mae straen, iselder neu orbryder yn cyfrif am 20% o'r holl salwch yn y diwydiant adeiladu sy'n gysylltiedig â gwaith. 

Dyna pam y rhoddodd Sacyr UK wahoddiad i Ceryn Turner, Rheolwr Partneriaeth yr elusen Lighthouse yng Nghymru a De-orllewin Lloegr, ymweld â safle Canolfan Ganser Newydd Felindre. Bu’n sgwrsio â thîm y safle am y gwaith y mae Lighthouse yn ei wneud ac am y llinell gymorth 24/7 y mae’n ei darparu, llinell sy’n cynnig cymorth a chyngor ar faterion llesiant, a hynny o iechyd meddwl i gymorth ariannol, a hefyd am ‘Ap Hunangymorth’ i weithwyr adeiladu allu cael cyngor arbenigol yn rhwydd.

Dywedodd Gordon Emerson, Rheolwr Iechyd a Diogelwch Sacyr UK yng Nghanolfan Ganser Newydd Felindre: “Rydym yn hynod o ddiolchgar am ymweliad Lighthouse er mwyn gallu siarad am yr ystadegau brawychus yn ein diwydiant a chael gwybod am y cymorth a'r gwasanaethau a ddarperir gan yr elusen. 

“Mae’n bwysig bod ein gweithwyr yn destun gofal da, yn gorfforol ac yn feddyliol, a’u bod yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt pe baent yn cael pethau'n anodd o ran eu llesiant emosiynol, corfforol neu ariannol.” 

Dywedodd Ceryn Turner, Rheolwr Partneriaeth yr elusen Lighthouse yng Nghymru a De-orllewin Lloegr: “Roedd yn wych cwrdd â chymaint o dîm safle Canolfan Ganser Newydd Felindre a siarad â nhw am y problemau yr ydym yn eu gweld yn y diwydiant, yn ogystal â chael sgwrs am unrhyw beth sy'n peri pryder iddynt. 

“Fel elusen, mae’n wych bod contractwyr megis Sacyr UK yn cynnig amser i weithwyr safle ddod i sgwrsio â ni fel y gallwn roi gwybod iddynt fod cymorth ar gael yn ddi-oed pe byddai arnynt ei angen. Dim ond galwad ffôn neu glic y mae'n ei olygu i gysylltu â ni, ac rydym yma i helpu cymaint ag y gallwn.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr elusen Lighthouse, ewch i: https://www.lighthouseclub.org/free-24-7-support/.”