Aelod o dîm gwerth cymdeithasol Sacyr UK yn cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yng nghynhadledd y blaid Lafur
Roedd aelod allweddol o dîm gwerth cymdeithasol Sacyr UK, Hannah Davies, yn bresennol yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno yn gynharach ym mis Tachwedd.
Mae Hannah Davies, Pennaeth Gwerth Cymdeithasol i People Plus Cymru – sefydliad sy’n helpu i gefnogi pobl i mewn i gyflogaeth, a chyflogwyr i dyfu trwy recriwtio sy’n gymdeithasol gyfrifol – wedi’i secondio i Sacyr UK ddau ddiwrnod yr wythnos fel ei Gydlynydd Datblygu’r Gweithlu. Mae'n arwain ar recriwtio cymdeithasol gyfrifol ar gyfer y prosiect.
Yn ystod y gynhadledd, cafodd Hannah gyfle i ymgysylltu â Phrif Weinidog Cymru a sawl aelod allweddol o’r blaid Lafur. Trafododd ei gwaith yn People Plus yn ogystal â Sacyr UK, a thrafododd lansiad Cyfamod Recriwtio Cymdeithasol People Plus. Mae’r Cyfamod yn ymrwymiad gan sefydliadau a busnesau i roi arferion busnes cynhwysol ar waith, gyda’r nod o leihau rhwystrau rhag cyflogaeth i bobl sy’n wynebu anfanteision cymdeithasol.
Mae'r cytundeb o'r enw "Gyda'n Gilydd Gallwn Wneud Gwahaniaeth", yn canolbwyntio ar gefnogi cyflogwyr sy'n llogi pobl o grwpiau difreintiedig, gan ysgogi mentrau gwerth cymdeithasol i greu gweithlu mwy amrywiol a theg.
Mae Sacyr UK wedi llofnodi’r cytundeb, gan addo mabwysiadu arferion busnes cynhwysol sy’n cefnogi pobl ddi-waith hirdymor, y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a gweithwyr difreintiedig yn Ne-ddwyrain Cymru fel rhan o brosiect Canolfan Ganser newydd Felindre.
Bydd Hannah yn parhau i weithio ar y prosiect hyd nes y cwblheir y Ganolfan Ganser, a bydd yn cefnogi Sacyr UK i gyflogi gweithlu mwy cynhwysol ac amrywiol.