Joanne O’Keefe yn ymuno â'r tîm budd cymunedol i gefnogi gwaith allgymorth addysgol ym maes STEM
Croesawyd Joanne O'Keefe i dîm budd cymunedol SACYR, sy'n gweithio ar brosiect Canolfan Ganser newydd Felindre, ac ers iddi gyrraedd, mae wedi bod yn gaffaeliad mawr. Mae Joanne wedi ymgymryd yn hwylus â phopeth ac mae eisoes wedi cael effaith sylweddol ar sawl prosiect.
Daw Joanne â phrofiad helaeth fel athrawes ysgol uwchradd gymwysedig a hyfforddwr profiadol. Yn ei rôl flaenorol, hi oedd Cydlynydd Prentisiaid a Graddedigion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Gyda chefndir ym maes addysg, gyrfaoedd a chymorth cyflogadwyedd, yn ogystal â threfnu digwyddiadau, recriwtio ar gyfer busnesau, ymgysylltu â rhanddeiliaid a rheoli prosiectau, bydd Joanne yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni'r dangosyddion perfformiad allweddol sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu â STEM yn ogystal â chanolbwyntio ar dargedau’r prentisiaethau.
Mae’r broses o recriwtio prentis Budd Cymunedol i’r tîm hefyd wedi dechrau, ac mae tîm Sacyr yn brysur yn darllen trwy'r ceisiadau ar gyfer y rôl newydd sbon hon. Bydd y prentis yn gweithio’n agos gydag aelodau’r tîm ar eu tasgau o ddydd i ddydd, ond yn benodol bydd ganddo gyfrifoldeb allweddol am fonitro a chynnal y llwyfan cymunedol, cefnogi digwyddiadau mewn ysgolion a gweithgareddau ar y safle, a chyfrannu at adroddiadau allweddol trwy ddadansoddi data.
