Cyflwyno cynllun buddion cymunedol newydd 'Cymunedau sy'n Ffynnu’
Mae Acorn, y datblygwr sy’n gweithio ar Ganolfan Ganser newydd Felindre, ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, wedi dod at ei gilydd i lansio cynllun buddion cymunedol o’r enw Cymunedau sy'n Ffynnu.
Bydd Cymunedau sy'n Ffynnu ar gael i bob sefydliad gwirfoddol a chymunedol a mentrau cymdeithasol sy'n gweithredu ledled De-ddwyrain Cymru, a bydd yn cynnig naill ai amser gwirfoddolwyr, grantiau neu adnoddau i ymgeiswyr llwyddiannus.
Yn rhan o’i hymrwymiad i ychwanegu gwerth cymdeithasol at y gwaith o adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, bydd y fenter Cymunedau sy'n Ffynnu ar gael trwy gydol oes y prosiect, ac felly bydd yn dod i ben ar ddechrau 2027.
Bydd y Bwrdd yn cyfarfod bob chwarter ac yn ystyried popeth, o geisiadau am grantiau bach i gynlluniau gwirfoddoli cymunedol.
Bydd can awr o ddiwrnodau gwirfoddolwyr ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus gan staff Acorn, is-gontractwyr a’r gadwyn gyflenwi, yn ogystal â grantiau bach o hyd at £1,000, a bydd 20 ohonynt yn cael eu dyfarnu yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Bydd Banc Adnoddau Cymunedau sy'n Ffynnu hefyd ar gael i sefydliadau elusennol, a bydd deunyddiau dros ben neu nas defnyddiwyd yn ystod cam adeiladu'r prosiect yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim i fudiadau gwirfoddol.
Dywedodd Katie Hathaway, Rheolwr Rhanddeiliaid ac Ymgysylltu Sacyr UK, sef y contractwr sy’n adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre ar ran Acorn, am y cynllun: “Mae gwerth cymdeithasol a rhoi yn ôl i’n cymunedau lleol yn darged allweddol i ni yn ystod y gwaith o adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, ac mae Cymunedau sy'n Ffynnu yn ymestyn ymhellach y cyrhaeddiad a’r effaith gadarnhaol y gallwn ei chael ar grwpiau gwirfoddol ac elusennol lleol.
“Croesewir ceisiadau gan bob sefydliad gwirfoddol a chymunedol a mentrau cymdeithasol a allai elwa o'n cymorth. O weithlu syml i wneud i brosiect ddigwydd, i hwb ariannol bach i gyflawni cynllun, neu ddim ond ychydig o ddeunyddiau adeiladu ychwanegol i gwblhau prosiect, anfonwch ffurflen gais a sgwrsiwch â ni am eich cais, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i helpu.”
I wneud cais i fenter Cymunedau sy'n Ffynnu, cliciwch yma