Menter i Gefnogi Mynediad at Lwyfan Cymunedol Acorn/Sacyr yng Nghaerdydd
Yn adeilad y Pierhead ar 22 Ionawr, cyhoeddodd Sacyr ei fenter gymunedol â'r bwriad o gefnogi unigolion sy’n cyrchu ei lwyfan cymunedol sy’n torri tir newydd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Yn rhan o’r fenter hon, bu Sacyr yn cydweithredu â Mark Wilding o gwmni Concept Management i brynu 40 o liniaduron wedi’u hadnewyddu, a hynny mewn ymdrech i ddileu rhwystrau cychwynnol i fynediad i’r rhyngrwyd a meithrin cymuned ar-lein gadarn.
Bydd y gliniaduron yn cael eu darparu’n rhad ac am ddim i sefydliadau cymunedol, gwirfoddol a chymdeithasol, ac mae sawl un eisoes wedi’i glustnodi ar gyfer sefydliadau amlwg megis Llamau, Sefydliad Cymunedol Rygbi Caerdydd, NDEAS (Gwasanaethau Menter a Chyflawniad Amrywiaeth Cenedlaethol), Sunflower Lounge, elusen Medsheds, a’r YMCA.
Ar ôl cael rhodd o liniaduron, dywedodd Samantha Davies yn Hosbis y Ddinas, “Roeddwn am neilltuo eiliad i ddiolch i chi a’r tîm yn Sacyr am eich rhodd hael o liniaduron i gefnogi ein hadran wirfoddoli. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich caredigrwydd, a bydd y rhain yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”
Nid yn unig y mae’r cydweithrediad hwn yn cefnogi sefydliadau cymunedol gyda’u hymdrechion, ond mae hefyd yn cyfrannu at yr economi gylchol trwy ddarparu technoleg wedi’i hadnewyddu. Mae pawb sy’n rhan o’r fenter yn teimlo’n gyffrous wrth weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael o ran dod â phobl ynghyd a chreu cymuned ar-lein ffyniannus yng Nghaerdydd.
