HYSBYSIAD PWYSIG
Byddwn yn gweithio oriau estynedig ddydd Gwener 15 Tachwedd wrth i'r gwaith sy'n gysylltiedig â thywallt concrit barhau er mwyn cyrraedd y safonau gofynnol. Rydym yn disgwyl y bydd y gwaith o dywallt concrit wedi'i gwblhau yn ystod oriau gwaith, er y bydd yn ofynnol i dri pheiriant llyfnhau weithio dros nos ar y safle hyd at 8:00am ddydd Sadwrn.
Cadwch olwg am ragor o wybodaeth am waith tywallt concrit sydd i ddod. Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth yn ystod y cyfnod allweddol hwn o osod sylfeini.
Diolch i chi am eich cydweithrediad a’ch amynedd wrth i ni ymdrechu i ddarparu'r profiad gorau posibl i chi. Edrychwn ymlaen at gwblhau’r prosiect hwn yn llwyddiannus a pharhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi trwy gydol y broses.