Asset Publisher

16/01/2025

Hysbysiad Pwysig

Byddwn yn gweithio oriau estynedig ddydd Iau 16 Ionawr a dydd Gwener 17 Ionawr i wneud y gwaith sy’n ofynnol i orffen y concrit er mwyn cyrraedd y safonau gofynnol. Rydym yn disgwyl y bydd y gwaith o dywallt concrit wedi'i gwblhau yn ystod oriau gwaith, er y bydd yn ofynnol i dri pheiriant llyfnhau weithio ar y safle ar ôl 6 o’r gloch ar y ddau ddyddiad.

Cadwch olwg am ragor o wybodaeth am waith tywallt concrit sydd i ddod. Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth yn ystod y cyfnod allweddol hwn o osod sylfeini.

Diolch i chi am eich cydweithrediad a’ch amynedd wrth i ni ymdrechu i ddarparu'r profiad gorau posibl i chi. Edrychwn ymlaen at gwblhau’r prosiect hwn yn llwyddiannus a pharhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi trwy gydol y broses.