Asset Publisher

28/05/2026

Hysbysiad

Roeddem am roi gwybod i chi y bydd yr oriau gweithio'n cael eu hestyn ar gyfer gweithgareddau penodol yng ngwaith adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre.  

Mae cymeradwyaeth wedi cael ei rhoi o dan Adran 61 i ganiatáu estyniad i'r oriau gweithio ar gyfer tasgau penodol yn unig.  
 

Bydd yr oriau estynedig yn berthnasol i'r canlynol:  


Gwaith gosod gwasanaethau mecanyddol a thrydanol 

Rhwng 6am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener 

Rhwng 1pm a 4pm ar ddydd Sadwrn 

Gwaith codi waliau allanol 

Rhwng 6am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig 


Mae'r oriau gweithio estynedig hyn yn gyfyngedig i'r gweithgareddau a'r amseroedd a restrir uchod yn unig. Ni fydd unrhyw waith arall yn cael ei wneud y tu allan i'r oriau cytunedig.  

Bydd y gymeradwyaeth bresennol ar waith tan ddydd Llun 13 Gorffennaf 2026.  

Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a dealltwriaeth barhaus y gymuned leol wrth i'r gwaith hanfodol hwn gael ei wneud.