Important Notice - Drone
Mae wedi dod i’n sylw bod drôn wedi bod yn hedfan dros safle adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre heb ganiatâd. Rydym am atgoffa pawb bod preifatrwydd a diogelwch ein staff o'r pwys mwyaf i ni.
Mae hedfan dronau dros ein safle heb ganiatâd nid yn unig yn groes i breifatrwydd ond hefyd yn erbyn y gyfraith. Gall dronau beri risg sylweddol i’n staff a’r gymuned, a gall unrhyw un sy’n cael ei ddal yn hedfan drôn dros ein safle heb ganiatâd wynebu canlyniadau cyfreithiol.
Mae ymchwiliad ar y gweill ar hyn o bryd, ac mae'r Ymddiriedolaeth wedi cael gwybod.
Rydym wedi ymrwymo i gadw ein safle, ein staff, a'n cymuned yn ddiogel, ac rydym yn annog pob gweithredwr dronau i barchu ein ffiniau ac ymatal rhag eu hedfan dros ein safle adeiladu heb ganiatâd.
Diolch i chi am eich cydweithrediad.