Hysbysiad Pwysig
Dymunwn roi gwybod i breswylwyr y gymuned y bydd ein tîm adeiladu yn gweithio oriau estynedig yn ystod nos Lun 24 Chwefror a nos Fercher 26 Chwefror i wneud gwaith angenrheidiol i lyfnhau a lefelu slabiau yn dilyn arllwysiadau mawr o goncrit. Hefyd, bydd y tîm yn dechrau gweithio ar y safle am 7 a.m. er mwyn achosi cyn lleied o darfu â phosibl a chydymffurfio â chyfyngiadau’r embargo ar Heol y Parc.
Rydym yn disgwyl mai bach iawn fydd y tarfu, ac rydym yn ddiolchgar am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.
Diolch i chi am eich amynedd.
