Hysbysiad
Hoffem eich hysbysu y bydd yr oriau gweithio'n cael eu hestyn o 6am tan 9pm fory, 22 Tachwedd, a hynny oherwydd y bydd cyfaint mawr o goncrit yn cael ei dywallt ar safle adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi, a gwerthfawrogwn eich amynedd a'ch dealltwriaeth ar yr adeg hon. Byddwn yn darparu diweddariadau pellach mewn perthynas â thywallt cyfeintiau mawr o goncrit yn 2025 maes o law, yn ôl y gofyn. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Diolch i chi am eich cydweithrediad.