Asset Publisher

20/03/2025

Hysbysiad Pwysig

Rydym am roi gwybod i drigolion y gymuned y bydd ein tîm adeiladu yn gweithio oriau estynedig rhwng 6pm a 10pm yn ystod gweddill yr wythnos bresennol a’r wythnos sydd i ddod (yr wythnos sy’n gorffen ar 17 Mawrth a'r wythnos sy'n dechrau ar 24 Mawrth) ar gyfer gweithgareddau ac amserlenni o fewn eitem 4 yn y caniatâd a roddwyd a61.

Ddydd Iau 20 Mawrth, byddwn yn gweithio trwy’r nos i ganiatáu i drydydd parti ar ran Dŵr Cymru gysylltu prif gyflenwad dŵr sy’n croesi safle adeiladu Canolfan newydd Felindre. 

Ymddiheurwn am unrhyw darfu, ac rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn. 

Diolch i chi am eich amynedd.