Asset Publisher

02/05/2025

Hysbysiad pwysig

Hoffem fynegi ein diolch am eich amynedd yr wythnos hon yn ystod y gwaith dros nos o dywallt concrit, a oedd yn angenrheidiol oherwydd y tymereddau uchel. Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth yn fawr wrth i ni adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre. 
 
Hoffem hefyd ddiolch yn ddiffuant i aelodau gweithgar y tîm am eu hymroddiad a'u hymrwymiad i reoli gwaith tywallt concrit mor heriol. 
 
I ddangos ein gwerthfawrogiad o'ch dealltwriaeth, rydym wedi penderfynu peidio â gweithio oriau estynedig yfory, a bydd y gwaith adeiladu yn dod i ben am 1pm. Ni fydd unrhyw waith yn digwydd o 1pm yfory (dydd Sadwrn 3 Mai) tan ddydd Mawrth 6 Mai am 8am.