Hysbysiad Pwysig
Roeddem am neilltuo eiliad i roi gwybod i chi am rai newidiadau i'n hamserlen adeiladu. Ar ôl gweithio'n agos gyda'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar gyfer Cyngor Caerdydd, rydym wedi llunio cynllun i helpu i darfu cyn lleied â phosibl ac osgoi oedi diangen er mwyn sicrhau bod Canolfan Ganser Newydd Felindre yn weithredol ar y cyfle cyntaf i gefnogi'r rhai y mae arnynt ei hangen fwyaf.
Rydym wedi coladu rhestr o weithgareddau ac amserlenni sy'n caniatáu gweithio y tu allan i oriau er mwyn i'r rhaglen adeiladu allu parhau ar y trywydd iawn. Cafwyd y gymeradwyaeth ar ddydd Llun, 11 Chwefror. Ymddiheuriadau am beidio â rhoi gwybod am hyn yn gynharach. Yn ogystal â'r gymeradwyaeth ar gyfer oriau gwaith estynedig tan y Pasg, rhoddir gwybod am unrhyw waith y mae'n ofynnol ei wneud y tu allan i oriau gwaith arferol (8am-6pm) trwy'r newvelindre.info a'r llwyfan newydd, Llwyfan Cymunedol Acorn/Sacyr, y gallwch gofrestru ar ei gyfer trwy ddilyn y ddolen isod:
https://acorn-sacyr.dreams-lms.org/rcd/login.php
Wedi i chi gofrestru, byddwch yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf trwy hysbysiadau ar gyfer gwaith arfaethedig, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i roi o leiaf 48 awr o rybudd i chi cyn i waith o'r fath gychwyn.
Ar adegau, byddwn yn dechrau gwaith am 7am. Weithiau, gall rhai gweithgareddau adeiladu nad ydynt yn creu sŵn uchel, er enghraifft cydosod barrau dur cyfnerthedig (rebar) a chaeadau, symud cyfarpar, a thywallt concrit, gael eu cynnal ar ddydd Sadwrn rhwng 1pm a 6pm.
I sicrhau bod defnydd effeithiol yn cael ei wneud o'r craeniau tŵr yn ystod oriau gwaith, ac i flaenoriaethu iechyd a diogelwch ein gweithlu pan fo swmp ein gwaith yn cael ei wneud, efallai y bydd gwaith logisteg, codi, glanhau a pharatoi ychwanegol yn ofynnol wedi i'r prif weithgareddau adeiladu gael eu cwblhau. Cafwyd cymeradwyaeth i'r gwaith hwn gael ei wneud rhwng 6pm a 10pm yn ystod yr wythnos. Yn olaf, yn achlysurol bydd llwythi mawr o goncrit yn cael eu tywallt a bydd gwaith gorffen concrit yn cael ei wneud sy'n gysylltiedig ag elfennau penodol o'r seilwaith, ond nid yn aml.
Mae manylion pellach am y cytundebau adran 61 a gymeradwyir i'w cael yma.
