Idris Davis School
Croesawyd disgyblion o Ysgol Idris Davies yn Nhredegar, Blaenau Gwent, gan Anna Davies, Cydlynydd Buddion Cymunedol Sacyr UK, a Sphere Solutions, sef partneriaid recriwtio ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre, i bencadlys Sphere Solutions ym Mhentre-poeth, Caerdydd, i gyflwyno sesiwn TGAU ar adeiladu iddynt.
Mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, cyflwynodd Anna a’r tîm o Sphere Solutions uned ar Gynllunio Adeiladu, sy’n rhan o gwrs TGAU y disgyblion.
Trwy addysgu mewn ffordd ymarferol, daethant â'r wers yn fyw ac addysgu’r disgyblion am y modd y mae’r broses adeiladu’n gweithio, o friffiau prosiectau, goddefiannau, cyfrifo, deunyddiau a’r swyddi dan sylw.
Yna defnyddiodd y disgyblion eu gwybodaeth newydd i fesur ystafell wag yn swyddfeydd Sphere, a dylunio ystafell ddosbarth adeiladu a elwir yn Hyb Sacyr Solutions, a fydd yn weithredol y flwyddyn nesaf.
Mae’r plant wedi cael y dasg o baratoi eu dyluniadau gan ddefnyddio technoleg CAD yn ystod yr wythnosau nesaf, ac yna bydd aelodau o dimau Sacyr UK a Sphere Solutions yn asesu’r dyluniadau i benderfynu ar enillydd. Yna bydd y dyluniad llwyddiannus yn dod yn fyw ac yn cael ei ddefnyddio i greu'r Hyb Sgiliau.
Bydd yr Hyb yn cynorthwyo'r di-waith hirdymor, y rhai heb unrhyw hyfforddiant nac addysg ffurfiol, yn ogystal â'r rhai sydd wedi cael eu diswyddo'n ddiweddar, i feithrin sgiliau newydd a dod yn barod i weithio ar brosiect Canolfan Ganser newydd Felindre.
Dywedodd athro yn Ysgol Idris Davies, sy’n arwain y cwricwlwm adeiladu: “Roedd heddiw yn ddiwrnod mor wych oherwydd eich ymdrechion. Rwyf mor ddiolchgar eich bod wedi sicrhau bod yr ymweliad yn cyd-fynd â rhan o’n cwricwlwm. Roedd mor werthfawr, ac mae’r disgyblion yn llawn cyffro ynghylch dechrau ar y gwaith yn ôl yn yr ysgol.”
Hoffai Sacyr UK ddiolch i Jordan a Robyn o Sphere Solutions am eu cymorth wrth baratoi a chyflwyno’r wers, ac edrychwn ymlaen at ddychwelyd i Sphere Solutions i weld gwaith caled y disgyblion yn dod yn fyw.