Asset Publisher

12/11/2026

Hannah Jenkins yn cael Gwobr Llais EDI gyntaf CICES mewn Cinio Blynyddol

Mae Hannah Jenkins, Pennaeth Gwerth Cymdeithasol Cyflogwyr Cymru Sacyr UK ar brosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre, wedi cael ei chydnabod â Gwobr Llais Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant glodfawr CICES 2026. Cafodd yr anrhydedd yng Nghinio Blynyddol Sefydliad Siartredig y Syrfewyr Peirianneg Sifil (CICES) ym Mryste.  

A hithau wedi’i secondio o PeoplePlus i Sacyr UK, cafodd Hannah ei chydnabod am ei chyfraniad eithriadol at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn ogystal â’i hymrwymiad i greu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ystyrlon i unigolion sy’n wynebu rhwystrau rhag gweithio.

Hon yw’r flwyddyn gyntaf i’r categori hwn gael ei wobrwyo ac mae’n dathlu pobl sy’n cael effaith fesuradwy trwy eiriolaeth, arweinyddiaeth a gweithredu i sbarduno newid cadarnhaol ar draws y diwydiant. 

Enwebwyd Hannah am ei gwaith eithriadol yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a hyrwyddo cyfleoedd i grwpiau difreintiedig ar adeilad Canolfan Ganser Newydd Felindre. Trwy gydweithio’n agos â phartneriaid y prosiect a’r gadwyn gyflenwi, mae hi wedi helpu i greu llwybrau i gyflogaeth i bobl a allai fel arall fod wedi cael trafferth cael cyfleoedd, gan gynnwys cefnogi pobl ifanc ddigartref i sicrhau gwaith ystyrlon ac adeiladu dyfodol mwy disglair. 

Wrth dderbyn y wobr, pwysleisiodd Hannah fod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ymwneud â chreu amgylcheddau lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u grymuso i fod yn nhw eu hunain. Dywedodd fod y gydnabyddiaeth yn adlewyrchu ymdrechion ar y cyd gan bartneriaid, isgontractwyr a chyd-weithwyr sy’n rhannu ymrwymiad i ymgorffori egwyddorion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mhopeth maen nhw’n ei wneud ar brosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre. 

Roedd cael y wobr gan Alex Pearsall, Llywydd sy’n gadael CICES, yn gwneud y cyflawniad yn arbennig o gofiadwy, a diolchodd Hannah i Nicola Clancy am yr enwebiad a amlygodd effaith ei gwaith a’r gwerthoedd y mae mor frwd drostynt.  

Diolchodd Hannah hefyd i’w chyflogwyr PeoplePlus UK/PeoplePlus Cymru a SACYR UK & Ireland am y gefnogaeth a’r cyfleoedd sydd wedi ei galluogi i ddarparu gwerth cymdeithasol parhaol trwy brosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre. Wrth fyfyrio ar ei thaith, siaradodd Hannah am bwysigrwydd creu cyfleoedd i eraill a sicrhau bod talent pobl yn cael ei chydnabod ni waeth beth fo’u cefndir.  

Yn ogystal â chyflawniad personol, mae gwobr Hannah yn cynrychioli’r effaith gadarnhaol y gall cydweithio, cynhwysiant a chyfle ei chael ar draws y diwydiannau adeiladu a pheirianneg sifil.