Asset Publisher

09/09/2024

Sacyr UK Yn partneru â Front Door Communications, yr asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus a marchnata digidol yng nghaerdydd, a hynny mewn cytundeb tair blynedd

Mae Sacyr UK, y prif gontractwr sy’n adeiladu'r Canolfan Ganser newydd yn Felindre (nVCC), wedi partneru â Front Door Communications yng Nghaerdydd i gael cymorth gyda'i waith cyfathrebu a marchnata yn ystod cyfnod adeiladu’r prosiect. 


Mae Front Door Communications wedi cael ei gyflogi gan Sacyr UK ar gyfer tair blynedd y prosiect er mwyn helpu i roi cyhoeddusrwydd i’r gwaith parhaus ar y safle, yn ogystal ag i'r buddion cymunedol y mae’r prosiect yn eu cyflawni. 


Sefydlwyd yr asiantaeth yn 2017 ac mae’n gweithio gyda rhai o gwmnïau mwyaf blaenllaw Cymru, gan gynnwys Go.Compare, Hodge ac Acorn Recruitment. Mae iddo eisoes hanes blaenorol cadarn yn y sector adeiladu gan ei fod yn gweithio gyda Bouygues UK, McCann and Partners a Cambria Consulting. 
Dyma a ddywedodd Kathryn Chadwick, Cyfarwyddwr Front Door Communications, am y bartneriaeth: “Mae Canolfan Ganser newydd Felindre yn ddatblygiad mawreddog a phwysig i Gymru, a fydd yn gartref i gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer y rhai y mae arnynt angen triniaeth ar gyfer canser – salwch sy’n effeithio ar gynifer ohonom.


“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda’r tîm yn Sacyr UK i ledaenu’r newyddion am y datblygiadau ar y safle, ond hefyd am y cynlluniau buddion cymunedol anhygoel sydd eisoes wedi digwydd ac sy'n cael eu cynllunio'n rhan o’r adeiladu. Bydd yn wych gweld y mentrau hyn yn dod yn fyw yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”