Asset Publisher

04/08/2025

Cyfnewid Diwylliannol yng Nghlwb Criced Vale

Nos Iau 24 Gorffennaf, cynhaliwyd gêm griced gyfeillgar a hynod bleserus rhwng Sacyr a'r contractwr pibellau mecanyddol FP Hurley, a hynny'n rhan o'r ymdrechion adeiladu tîm parhaus ym mhrosiect Canolfan Ganser newydd Felindre.

Yn y cyfnod cyn y gêm, cynhaliwyd ymgyrch recriwtio ymhlith tîm prosiect Sacyr ledled y safle, gan ennyn ymateb brwdfrydig. Camodd grŵp amrywiol o chwaraewyr a chefnogwyr ymlaen—nifer ohonynt heb fawr ddim profiad blaenorol o griced—gan amlygu ysbryd tîm rhyfeddol a pharodrwydd i fentro y tu allan i'w parth cysur.

Cynhaliwyd y gêm yng Nghlwb Criced Vale, Corntwn, gyda staff FP Hurley yn garedig iawn yn trefnu mynediad at y cyfleusterau. Roedd eu lletygarwch a'u chwarae teg yn rhagorol wrth iddynt gynnig arweiniad, cyfarpar ac anogaeth i chwaraewyr llai profiadol trwy gydol y noson.

Galwodd Sacyr yn gywir a dewisodd fatio gyntaf. Amlygodd y tîm ymdrech a chydnerthedd gwych, gan orffen y batiad cyntaf gyda 30 rhediad. Yn anhygoel, ni chafodd yr un o chwaraewyr Sacyr ei anfon oddi ar y cae, a chafwyd perfformiadau rhagorol gan Chantelle a Celia; gadawodd y ddwy heb fod allan yn dilyn partneriaeth gadarn ar y cae.

Aethpwyd ati â brwdfrydedd i wynebu ochr fowlio’r gêm, elfen anghyfarwydd i lawer yn y tîm. Yn ei ymgais fowlio gyntaf erioed, cipiodd Carlos Viloca ddwy wiced â'i dafliadau agoriadol. Gwnaeth Waqas argraff gyda chyfres o dafliadau lled-gyflym cryf, ac amlygodd Hugo ddawn naturiol â'r bêl, gan hefyd gipio wicedi allweddol.

Roedd Carlos Lossada yn sefyll allan gyda'i waith ffildio craff, gan ddal y bêl yn lân ac addasu'n sydyn i gyflymder y chwarae. Roedd Pablo Borrego yn ffynhonnell gyson o gymhelliant a phositifrwydd ar y cae, a bu'n rhoi hwb i forâl y tîm gyda'i egni a'i anogaeth.

Rhaid rhoi sylw arbennig i Waqas, a enwyd yn Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr y gêm am ei berfformiad cyffredinol rhagorol. Cafodd ei fedrusrwydd â'r bat a'r bêl ganmoliaeth gan hyfforddwr Clwb Criced Vale, a fynegodd ddiddordeb yn ei gofrestru yn y fan a'r lle.

Yn fwy na dim ond gêm, roedd y noson yn dathlu ysbryd tîm a chyfnewid diwylliannol. Daeth chwaraewyr o ystod eang o gefndiroedd—yn cynnwys Sbaen, Mecsico, Ecwador, Periw, Pacistan, ac Ynysoedd Philippines—at ei gilydd i rannu profiad hwyliog a chynhwysol y tu allan i'r safle adeiladu.

Dywedodd Jason Davies, Capten Tîm Sacyr: “Roedd gweld cynifer o’n tîm yn croesawu'r profiad â chymaint o frwdfrydedd yn wirioneddol galonogol.”

Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran neu a gefnogodd y digwyddiad. Roedd yn noson gofiadwy a atgyfnerthodd glymau agosrwydd y tîm a diwylliant un tîm y prosiect, gan osod y cywair ar gyfer mwy o weithgareddau trawsddiwylliannol, cymunedol yn y misoedd nesaf.