Llongyfarchiadau!
Mae’n bleser gennym rannu bod y tîm y tu ôl i’r Ganolfan Ganser Felindre newydd wedi ennill gwobr fawr arall
Mae consortiwm Acorn, sy'n gweithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i adeiladu ein canolfan ganser newydd o safon fyd-eang, wedi ennill y Wobr Diwylliant ac Amrywiaeth yn seremoni'r Partnership Awards eleni (30 Ebrill).
Mae’r Wobr Diwylliant ac Amrywiaeth yn cydnabod cyflawniad rhagorol mewn creu amgylcheddau cynhwysol a theg, sy'n meithrin talent amrywiol ac sy’n hyrwyddo mentrau ystyrlon ar draws partneriaethau cyhoeddus-preifat.
Mae ein CGFn i fod i agor yn nhymor y gwanwyn 2027, a bydd yn trawsnewid gofal canser ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r CGFn yn fwy na dim ond adeilad – mae'n cynrychioli newid sylweddol yn y ffordd mae gofal canser yn cael ei ddarparu, ac yn caniatáu i Felindre drawsnewid ein gwasanaethau. Mae’r ganolfan wedi’i chynllunio o amgylch cleifion a staff, a bydd yn darparu mwy o gapasiti, amgylcheddau gwell a chanlyniadau gwell.
Llongyfarchiadau mawr i'r holl dîm dan sylw!
