Asset Publisher

14/03/2025

Sacyr yng Nghynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant y CITB a gynhaliwyd yng Ngwesty St David’s ym Mae Caerdydd

Ar 23 Ionawr, aeth aelodau o dîm Budd Cymunedol Sacyr i un o ddigwyddiadau’r diwydiant a oedd â’r nod o ddwyn ynghyd sefydliadau yn y sector adeiladu a’r rhwydwaith sgiliau a hyfforddiant ledled Cymru. Roedd yn llwyfan i drafod pynciau hanfodol megis:

  • Cyllid a grantiau ar gyfer datblygu ac uwchsgilio staff: Y modd y gall sefydliadau gyrchu cymorth ariannol i hyfforddi a datblygu eu gweithlu, gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i fodloni’r galw ym maes adeiladu ’nawr ac yn y dyfodol.
  • Goresgyn rhwystrau i recriwtio: Mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau yn y diwydiant a’r heriau a wynebir wrth ddenu a chadw talent, ynghyd â datrysiadau ar gyfer gwneud y sector yn fwy apelgar i amrywiaeth eang o unigolion sy’n chwilio am swyddi.
  • Y dirwedd adeiladu yn y dyfodol: Archwilio tueddiadau ac arloesedd ym maes adeiladu, yn cynnwys arferion cynaliadwyedd, digideiddio, ac effaith technolegau esblygol ar y diwydiant.
  • Iechyd meddwl a niwroamrywiaeth yn y gweithle: Meithrin amgylchedd cynhwysol sy’n cefnogi llesiant meddyliol ac unigolion niwroamrywiol, gan sicrhau bod gweithleoedd adeiladu yn groesawgar, yn gefnogol, ac yn gynhyrchiol i bawb.
  • Darparu gwerth cymdeithasol trwy’r gadwyn gyflenwi: Y modd y gall busnesau ddefnyddio eu cadwyni cyflenwi i lywio effaith gymdeithasol, o hyrwyddo’r broses o greu swyddi lleol, i wella gweithredu cymunedol trwy fentrau cymdeithasol.

Yn ogystal â hyn, roedd yna ddigon o gyfleoedd i rwydweithio ac ymgysylltu ag amrywiol randdeiliaid sy’n darparu cymorth yn y meysydd hyn megis Go Construct, Gyrfa Cymru, a chynrychiolwyr o sefydliadau addysg bellach. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn gallu trafod sut i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau a chysoni eu strategaethau hyfforddi ag anghenion y diwydiant.

Roedd yna nifer nodedig o bobl yn bresennol yn y digwyddiad, gyda 170 o fynychwyr o’r sector adeiladu a meysydd perthnasol wedi dod ynghyd. Darparodd y gynhadledd ofod gwych i ddysgu oddi wrth eraill, rhannu arfer gorau, a chael dirnadaeth werthfawr o sut i wella’r ffordd y mae busnesau’n ymdrin â heriau, yn symleiddio gweithrediadau, ac yn cyflawni targedau allweddol. Roedd yn amlwg o’r syniadau a’r profiadau a gyfnewidiwyd fod cydweithredu ar draws sefydliadau yn allweddol wrth fynd i’r afael â heriau dybryd recriwtio, hyfforddi, a datblygu yn y diwydiant.

 

Yn y llun isod, o’r chwith i’r dde:

Tim Balcon, Prif Swyddog Gweithredol, CITB

Deborah Madden, Cyfarwyddwr Gweithredol, CITB

Danny Clarke, Cyfarwyddwr Ymgysylltu, CITB

Katie Hathaway, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Budd i’r Gymuned, Sacyr UK

Julia Stevens, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cymru, CITB