Asset Publisher

09/02/2026

Dathlu Dechrau Wythnos Genedlaethol y Prentisiaethau gyda'n Prentisiaid yn Felindre!

Mae'n Wythnos Genedlaethol y Prentisiaethau, wythnos o ddathliad gan Lywodraeth y DU sy'n dod â busnesau a phrentisiaid ledled y wlad ynghyd, a hynny er mwyn amlygu effaith gadarnhaol prentisiaethau ar unigolion, busnesau, a'r economi ehangach.

 

I nodi hyn, bu i ni gysylltu â'n prentisiaid sy'n gweithio ar Brosiect Felindre, Caerdydd. Mae'n anodd credu bod chwe mis wedi mynd heibio'n barod ers i Sacyr UK & Ireland groesawu pedwar prentis newydd i Brosiect Felindre ... Mae sawl cyd-weithiwr yn teimlo bod yr ychwanegiadau newydd bellach yn rhan o'r dodrefn, cymaint yr ydynt wedi dod yn rhan o'r tîm!

 

Mae'r prentisiaid, Sam (Prentis y Tîm Budd Cymunedol), Lucy (Prentis y Tîm Dylunio Technegol), Ollie (Prentis y Tîm Mecanyddol a Pheirianneg), a Faith (Prentis y Tîm Cyllid) bellach yn agosáu at ddiwedd eu cyfnod prawf. I nodi Wythnos Genedlaethol y Prentisiaethau, rydym wedi cysylltu â nhw i weld sut y mae pethau arnynt.

 

Pan ofynnwyd iddo am ei amser gyda'r tîm Mecanyddol a Pheirianneg, dywedodd Ollie: "Rwy'n bennaf yn falch o'r modd yr wyf wedi newid ers fy misoedd cyntaf yma, ac mae hynny i'w ddisgwyl. Yn ddiweddar, rwyf wedi cael y cyfle i wneud mwy o waith pwysig ac annibynnol na fyddwn i erioed wedi gallu ei wneud pan ddechreuais yma." Yn ystod y misoedd cyntaf ers iddynt ddechrau eu hantur gyda Sacyr, mae'r prentisiaid wedi codi trwy'r rhengoedd o ran cyfrifoldebau, o gysgodi i ddechrau, a thyfu i ymgymryd â darnau o waith mwy annibynnol a hunangynhaliol.

 

"Dyma fy nhro cyntaf yn gweithio ar brosiect go iawn, felly rwy'n ddiolchgar bod y brentisiaeth hon wedi rhoi'r cyfle i mi fod yn rhan o rywbeth mor arwyddocaol,” meddai Prentis y Tîm Dylunio Technegol, Lucy. "Rwy'n rhan o dîm anhygoel sydd wedi bod yn gefnogol iawn, ac rwy'n dysgu llawer ganddynt." "Mae pob dydd yn her newydd, ond wastad mewn modd diddorol sy'n taflu goleuni,” meddai Prentis y Tîm Budd Cymunedol, Sam, pan ofynnwyd iddo sut yr oedd yn teimlo am ei brofiad. "Roedd yn braf bod yn rhan o adeiladu rhywbeth da."

 

Nid oedd modd i ni gynnal cyfweliad wyneb yn wyneb â Faith, am iddi roi genedigaeth i ferch fach ddiwedd y llynedd ac, o'r herwydd, bydd ar gyfnod mamolaeth am y dyfodol agos. Serch hynny, roeddem wedi cysylltu â Faith drwy neges, a dywedodd ei bod hi a'i babi'n cadw'n dda.

 

Mae Sacyr yn falch i weld cystal y mae'r prentisiaid ifanc yn ei wneud, ac yn edrych ymlaen at ddatblygiadau pellach ganddynt.