Asset Publisher

10/07/2026

Cefnogi Rhaglen Ieuenctid Penrhys trwy roi deunyddiau

Danfonodd Joanne O’Keefe, Cydlynydd Budd Cymunedol Sacyr UK baledi a deunyddiau pren i Ganolfan Gymunedol Penrhys, gan gryfhau cefnogaeth i raglenni ymgysylltu â phobl ifanc y ganolfan. 

Caiff y deunyddiau a roddwyd eu defnyddio mewn gweithdai ymarferol sydd wedi’u dylunio er mwyn dysgu sgiliau cydosod a gwaith coed sylfaenol i bobl ifanc, gan gynnwys gwneud bocsys blodau a meinciau ar gyfer yr ardd. Nod y gweithgareddau ymarferol hyn yw hybu gwaith tîm, meithrin hyder, a datblygu galluoedd ymarferol gwerthfawr yn y gymuned leol.

Yn dilyn yr ymateb cadarnhaol i’r rhodd gychwynnol, nododd y Tîm Budd Cymunedol gyfle i wella’r rhaglen ymhellach. Cafwyd paledi eraill o ansawdd da a darnau o bren 4x4 yn uniongyrchol o safle’r prosiect er mwyn gwella gwydnwch a safon yr eitemau a oedd yn cael eu creu gan y cyfranogwyr. Bydd y cyfraniad hwn yn helpu i sicrhau bod y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn gallu gweithio gyda deunyddiau dibynadwy wrth gael profiad o waith adeiladu a dylunio.

Mae’r gefnogaeth barhaus yn adlewyrchu ymrwymiad Sacyr i fuddsoddi mewn cymunedau lleol a chreu cyfleoedd i ddatblygu pobl ifanc trwy gynlluniau cynaliadwy, sy’n canolbwyntio ar y gymuned.

Yn ôl Joanne: “Rydyn ni wedi mwynhau cefnogi’r fenter hon gan fod cysylltiad mor agos rhwng y fenter a’r hyn rydyn ni’n ei wneud bob dydd ar y safle, annog pobl ifanc i ymuno â’r diwydiant a gweld adeiladu fel llwybr gyrfa. Rydw i hefyd wedi mwynhau danfon yr eitemau gan fy mod wedi cael gyrru’r fan!”