Asset Publisher

20/02/2026

Ymweliad Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd â safle Canolfan Ganser newydd Felindre

Mentrodd aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd trwy dywydd mis Ionawr i gael gweld y cynnydd gwych a wnaed gyda phrosiect Canolfan Ganser newydd Felindre. Daeth pymtheg aelod o adran a phwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd i'r swyddfa ar safle Sacyr UK, y prif gontractwr sy'n adeiladu'r Ganolfan. Croesawyd hwy am daith bersonol o amgylch y safle gan Arweinydd Technegol y prosiect, Vincenzo Nigro, a Rheolwr y Tîm Buddion Cymunedol ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, Katie Hathaway. Yn bresennol gyda'r grŵp roedd Mark Farrar, Cyfarwyddwr The Urbanists, yr ymgynghoriaeth cynllunio a fu'n rheoli'r gwaith o amlinellu proses y cais cynllunio ar gyfer y prosiect, a oedd yn cynnwys asesiadau o'r effaith ar yr amgylchedd.

 

Cafwyd cyflwyniad am gynnydd y prosiect gan Gyfarwyddwr Prosiect Sacyr Uk ar gyfer y Ganolfan, Elena Castro Blanco, ynghyd â gwybodaeth am y mentrau a'r arferion cynaliadwyedd y mae wedi'u cyflwyno i'r gwaith adeiladu. Mae'r mentrau hyn yn cynnwys technegau i warchod y pridd, y defnydd o frics Nelco sy'n amsugno carbon, ac wrth gwrs, y paneli allanol a'r ffrâm bren a osodwyd yn ddiweddar.

 

Gwahoddwyd staff yr adran gynllunio ac aelodau'r pwyllgor i'r safle hefyd, lle cawsant eu tywys o amgylch y gwaith adeiladu ei hun gan yr Arweinydd Technegol, Vincenzo. Aeth ati i ateb cwestiynau'r ymwelwyr, cynnig mewnwelediad i'r prosesau a ddefnyddiwyd i gyrraedd y pwynt hwn, ac esbonio camau nesaf y gwaith adeiladu. Dywedodd y Rheolwr Buddion Cymunedol, Katie Hathaway:

 

"Mae'n anhygoel gallu croesawu aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd a rhoi golwg iddynt o'r holl ddarnau'n dod ynghyd. Ni allem fod yn fwy balch o'r hyn sydd gennym i'w ddangos."

 

Hoffai Sacyr ddiolch i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd am ei ymweliad â safle Canolfan Ganser newydd Felindre, ac edrychwn ymlaen at groesawu'r aelodau eto cyn bo hir.