Asset Publisher

26/05/2026

Bwriad i ddatgymalu craen tyrog – 6 a 7 Mehefin 2026

Roeddem am roi gwybod i chi bod un o’r craeniau ar safle Canolfan Ganser Newydd Felindre ar fin cael ei symud.  

Mae caniatâd wedi cael ei roi i symud y craen y tu allan i oriau gweithio arferol am resymau iechyd a diogelwch.  

Mae Hysbysiad Adran 61 wedi cael ei gyhoeddi i ddatgymalu craen tyrog pedwar ar y safle ar y penwythnos, gan alluogi’r tîm i wneud y gwaith mewn amgylchedd dan reolaeth lwyr, ar wahân i’r gweithlu dyddiol.  

Bydd y gwaith cymeradwy yn cael ei wneud ar:  

  • ddydd Sadwrn 6 Mehefin 2026 rhwng 13:00 a 18:00 

  • dydd Sul 7 Mehefin 2026 rhwng 09:30 a 18:00 

Ni fydd unrhyw waith yn dechrau cyn 9.30am ar y dydd Sul, ac ni fydd unrhyw waith yn parhau ar ôl 6pm ar y naill ddiwrnod na’r llall. 

Caiff cydsyniad Adran 61 ei gyhoeddi gan yr Awdurdod Lleol i ganiatáu gweithgarwch adeiladu penodol y tu allan i oriau gwaith safonol, gan sicrhau mesurau priodol i reoli a monitro sŵn.  

Rydym yn sylweddoli y gallai’r gwaith hwn fod yn fwy amlwg na gwaith arferol ar y safle, a hoffem ddiolch i’r preswylwyr ymlaen llaw am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i’r cam pwysig hwn o’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau.