Yr amgylchedd adeiledig: diwrnod blasu
Cymerodd Sacyr UK ran mewn Diwrnod Blasu yr Amgylchedd Adeiledig ar gyfer disgyblion ôl-16, wedi'i drefnu gan Gydwasanaethau'r GIG a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS). Cynhaliwyd y digwyddiad gan Brifysgol De Cymru yn Nhrefforest, lle cafodd 30 o fyfyrwyr o Goleg Merthyr a Choleg Caerdydd a'r Fro glywed am opsiynau addysg uwch gwahanol ar gyfer astudio'r amgylchedd adeiledig. Cafodd y myfyrwyr hefyd gyfle i ymgysylltu â chyflogwyr yn y diwydiant adeiladu.
Yn rhan o'r diwrnod blasu, medrodd y myfyrwyr gymryd rhan mewn profiadau ymarferol a oedd yn ffocysu ar yr amgylchedd adeiledig, gan gynnwys cystadleuaeth mesur, gweithgaredd ‘adeiladu tref’, arddangosiad o gynnal arolwg o adeilad, a dysgu am brisio.
Cynlluniwyd y digwyddiad i roi dealltwriaeth i'r myfyrwyr o'r amgylchedd adeiledig a'r gyrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu.
