Asset Publisher

03/07/2026

Building the UK’s greenest cancer centre: A holistic, collaborative home for future-focused healthcare

Tynnodd aelodau o dîm y Ganolfan Ganser Felindre newydd (CGFn) sylw at sut mae'r prosiect yn darparu un o ganolfannau canser mwyaf cynaliadwy'r DU mewn cynhadledd fawreddog.

Tynnodd dau o'r tîm sylw at y prosiect yng nghynhadledd Dylunio Gofal Iechyd Ewrop a gynhaliwyd yn Llundain ar Fehefin 15/16.

Fe wnaeth y sesiwn, “Building the UK’s greenest cancer centre: A holistic, collaborative home for future-focused healthcare”, edrych ar sut mae ein cartref newydd yn cyfuno adeilad modern sy’n darparu gofal clinigol o’r radd flaenaf ochr yn ochr â hyblygrwydd hirdymor, cymwysterau amgylcheddol blaenllaw, a gofod sy’n hyrwyddo lles staff a chleifion.

Amlinellodd y cyflwyniad hefyd sut mae'r CGFn yn nodi newid yn nyluniad a darpariaeth cyfleusterau gofal iechyd, a thrafododd y bartneriaeth rhwng Felindre, Sacyr, a chonsortiwm Acorn.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma: https://shorturl.at/jLrmw