Asset Publisher

19/03/2026

Adeiladu effaith gymunedol gyda'n gilydd

Bu Sacyr UK, y prif gontractwr y tu ôl i Ganolfan Ganser newydd Felindre, yn cefnogi Menter Effaith Gymunedol trwy gyfrannu pren a byrddau plastr at rai o'i phrosiectau lleol. 


Un o werthoedd allweddol Sacyr UK yw darparu mwy nag adeiladau yn unig – ond hefyd gwaddol parhaol i'r cymunedau lleol y mae'n gweithio ochr yn ochr â nhw a gwaith partneriaeth â phrosiectau ac elusennau lleol. 


I'r perwyl hwnnw, bu'r prif gontractwr yn cefnogi Menter Effaith Gymunedol trwy roi deunyddiau adeiladu, yn arbennig pren a phlastr, i helpu dwy o raglenni trawsnewidiol y Fenter: Women Construct Wales a phrosiect Sustaining a Legacy.
Yn sgil ymdrechion aelodau Tîm Buddion Cymunedol Sacyr UK, Hannah Jenkins a Joanne O'Keefe, bydd y deunyddiau’n gymorth uniongyrchol ar gyfer dysgu ymarferol, adfywio eiddo, a datblygu sgiliau i bobl leol.


Dywedodd Hannah Jenkins: “Cawn ein hysbrydoli o hyd gan y gwaith dan arweiniad Abi Lewis a thîm ehangach y Fenter, sy’n creu cyfleoedd, yn magu hyder, ac yn darparu gwerth cymdeithasol parhaol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled y rhanbarth. Rydym yn falch o gynnig cymorth parhaus iddynt gyda'r prosiectau hyn a byddwn yn parhau i helpu lle bynnag a phryd bynnag y gallwn.”