Asset Publisher

26/11/2024

Breedon Group yn cynnal sesiwn Ymgysylltu â'r Gymuned i drafod symudiadau cerbydau nwyddau trwm (HGV) yn Nhongwynlais

Hoffai tîm Sacyr fynegi ein diolch i Breedon Group am gynnal sesiwn foreol gynhyrchiol i drafod symudiadau'r cerbydau nwyddau trwm (HGV) ar gyfer y Concrit y mae ei angen i gefnogi'r gwaith o adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre. Bydd y concrit yn dod o dri gwaith concrit parod (RMX) lleol yn Nhongwynlais, Caerdydd a Chasnewydd, a bydd y cyflenwad agreg a sment yn dod o chwarel Ffynnon Taf, Glanfa Caerdydd, a Theale a Phort Talbot. Diolch yn arbennig i'r Cynghorydd Marc Palmer am fod yn bresennol i ddysgu rhagor a chefnogi ei etholwyr, yn ogystal â Cynghorydd Mike Jones - Pritchard, Cadeirydd Cyngor Tongwynlais, a Nadine Dunseath, clerc Cyngor Cymuned Tongwynlais. Roedd yn sesiwn addysgiadol ac yn gyfle gwych i ymgysylltu â’r gymuned.