Asset Publisher

15/07/2024

Dewch yn Llysgennad Acorn ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre!

Bydd Cynghrair Llysgenhadon Acorn yn cefnogi ac yn cynghori ar gynlluniau budd cymunedol arfaethedig a chyfredol y prosiect, yn rhannu newyddion â phobl leol, ac yn mynychu digwyddiadau cymunedol i feithrin ymwybyddiaeth o werthoedd cymdeithasol y prosiect. Byddant hefyd yn cynrychioli ac yn eirioli dros y prosiect i'r gymuned leol, gan sicrhau profiad cadarnhaol i bawb sy'n gysylltiedig, ac yn rhwydweithio â mudiadau gwirfoddol a chymunedol lleol i feithrin partneriaethau cryf.


Os hoffai unrhyw bobl leol wneud cais i fod yn Llysgennad ar gyfer Cynghrair Acorn, gallwch ymgeisio trwy ein ffurflen gais ar-lein (link it here), a bydd copïau caled o'r ffurflen ar gael yn Hwb Yr Eglwys Newydd, Hwb Grangetown, Hwb STAR, a Hwb Pafiliwn Butetown.


Mae Cynghrair Llysgenhadon Acorn yn fenter ar wahân i Lleisiau Felindre, sy’n fforwm sydd wedi’i hen sefydlu a arweinir gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae Lleisiau Felindre yn ffordd i gleifion, gofalwyr, ac aelodau o’r gymuned ehangach gadw mewn cysylltiad â’r Ymddiriedolaeth, dylanwadu ar ei gwaith, a chymryd rhan ym mha bynnag ffordd ag y mynnont. Mae Cynghrair Llysgenhadon Acorn yn cael ei sefydlu'n benodol i gynghori staff prosiect Canolfan Ganser newydd Felindre ar anghenion y gymuned leol yn ystod y cyfnod adeiladu a thu hwnt.


Mae Cynghrair Llysgenhadon Acorn wedi ymrwymo i gynnwys y cyhoedd yn y broses o ddatblygu Canolfan Ganser newydd Felindre. Rydym yn credu yng nghryfder lleisiau amrywiol i adeiladu cyfleuster gofal canser cynhwysol ac effeithiol.