Asset Publisher

30/12/2024

Sacyr UK yn bwriadu cyflogi prentis budd cymunedol

Mae Sacyr UK, y contractwr sy’n adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, yn gwahodd ceisiadau am rôl prentisiaeth newydd ar y prosiect. 


Mae aelodau’r Tîm Rheoli Budd Cymunedol a Rhanddeiliaid yn chwilio am berson sy'n gallu gweithio o'i ben a'i bastwn ei hun, sydd â naill ai cefndir gweinyddu busnes neu gyfathrebu i ymuno â nhw i arwain mentrau lleol, diweddariadau newyddion a chynlluniau cymunedol o amgylch y prosiect. 


Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i fod yn rhan o'r tîm sy'n gweithio ar y gwaith adeiladu hwn sydd o'r radd flaenaf, a bydd yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cymunedau y bydd yn eu gwasanaethu. 


Fel rhan o'r rôl, bydd yn cael y cyfle i gysylltu â rhanddeiliaid, partneriaid, a'r rhai sy'n gweithio ar yr adeilad. Bydd yn rhan o’r tîm a fydd yn cysylltu â’r gymuned ac yn creu prosiectau etifeddol a fydd yn gwasanaethu’r cymunedau lleol am genedlaethau i ddod. 


Bydd hefyd yn cael cyfle i redeg llwyfan a fforwm cymunedol newydd sbon ac i rannu'r newyddion diweddaraf am y gwaith adeiladu ar wefan y prosiect. 


Dywedodd Katie Hathaway, Rheolwr Rhanddeiliad a Budd Cymunedol y prosiect, am y rôl: “Dyma’r tro cyntaf i ni greu rôl fel hon ar un o safleoedd Sacyr UK, ac felly bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu personoli'r swydd. Bydd yn helpu gyda phob agwedd ar y mentrau budd cymunedol, a bydd yn rhan allweddol o’r gwaith yr ydym yn ei wneud yma. 


“Rwy’n llawn cyffro am y rôl hon a’r ddirnadaeth, y brwdfrydedd, a'r egni y bydd y person newydd hwn yn eu cynnig, nid yn unig i fy nhîm i, ond i’r prosiect cyfan.”


Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed rhagor am y swydd prentisiaeth budd cymunedol, anfonwch neges e-bost at Katie Hathaway yn khathaway@sacyr.com