Asset Publisher

12/03/2025

Sesiwn Gwybodaeth am Brentisiaethau

Mae Sacyr yn llawn cyffro i gyhoeddi bod ei gyfleoedd newydd i brentisiaid bellach yn fyw!

Mae 6 swydd ar gael:

Mae'r rolau hyn yn rhoi cyfle gwych i fagu profiad rhagorol ar brosiect adeiladu unigryw, uchel ei broffil gyda thîm o arbenigwyr. Bydd y prentisiaid yn cael profiad amhrisiadwy yn y gwaith wrth weithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac ennill cyflog byw. Mae’r cyfleoedd yn agored i bobl o unrhyw oedran, cefndir neu brofiad, ac ar ôl cael eu cyflogi, bydd y prentisiaid yn cael cefnogaeth, arweiniad a gofal bugeiliol agos parhaus gan ein tîm Budd Cymunedol i sicrhau bod ganddynt bopeth y mae ei angen arnynt i wneud eu profiad yn gwbl gadarnhaol a buddiol.

Mae Jo o’r Tîm Budd Cymunedol wedi trefnu dwy Sesiwn Gwybodaeth am Brentisiaethau i’w cynnal yn Hwb a Llyfrgell yr Eglwys Newydd ddydd Iau 13 a dydd Iau 20 Mawrth rhwng 1.00pm a 6.00pm. Sesiynau galw heibio yw’r rhain lle gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am y cyfleoedd gael sgwrs anffurfiol â Jo. Nid oes angen apwyntiad, gall aelodau o'r cyhoedd droi i fyny bryd bynnag sy'n gyfleus iddynt a chael yr holl wybodaeth y gallai fod arnynt ei hangen i symud ymlaen a hyd yn oed wneud cais yn y fan a'r lle!