Bwrdd Llysgenhadon Acorn yn croesawu pedwar aelod newydd
Mae Canolfan Ganser newydd Felindre wedi croesawu pedwar aelod newydd i fwrdd Llysgenhadon Acorn.
Mae'r cynllun Llysgenhadon Acorn wedi bod ar waith ers i'r prosiect dorri tir, ac mae'n rhoi cymorth a chyngor ar gynllun budd cymunedol arfaethedig a phresennol y prosiect. Mae'n cyfathrebu newyddion i breswylwyr lleol ac yn mynychu digwyddiadau cymunedol i feithrin ymwybyddiaeth o werthoedd cymdeithasol y prosiect. Mae ei aelodau hefyd yn eiriol dros y prosiect i'r gymuned leol.
Mae pedwar aelod newydd o'r bwrdd bellach wedi cael eu recriwtio i'r cynllun, gan gryfhau ymhellach y cysylltiadau rhwng prosiect Canolfan Ganser newydd Felindre a chymunedau ac elusennau ledled Caerdydd a'r rhanbarth lleol.
Mae Lindsay Doyle, dyn busnes lleol a chodwr arian ar gyfer elusennau, wedi cael ei recriwtio i'r bwrdd. Mae'n dod â phrofiad helaeth o'r sector ariannol, yn ogystal ag o faes codi arian, ac mae'n gymeriad adnabyddus ym myd busnes Caerdydd.
Mae'r cerddor a'r fyfyrwraig leol, Meg Uppington, sy'n beiriannydd technegol gyda Diff Radio, hefyd wedi cael ei phenodi i'r bwrdd. Mae'n cynnig gwybodaeth werthfawr am ddiwylliant ieuenctid lleol a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg.
Mae aelod arall o dîm Diff Radio, Matt Cutrupi, hefyd wedi cael ei benodi. Matt yw rheolwr Diff Radio. Yn ogystal â rhedeg ei fusnesau ei hun, mae ganddo wybodaeth helaeth am ymgysylltu â'r cyfryngau cymdeithasol, cysylltiadau ieuenctid, a thueddiadau diwylliannol, sy'n golygu ei fod yn ychwanegiad defnyddiol iawn i'r bwrdd.
Mae Cyfarwyddwr Asiantaeth Farchnata Edie & Ludlow, Alexandra Otley, sydd hefyd yn godwr arian ar gyfer Felindre, wedi ymuno â'r bwrdd yn ogystal. Roedd hanes blaenorol cadarn Alex o godi arian, yn arbennig ar gyfer y ganolfan ganser, ynghyd â'i sgiliau o ran marchnata byd-eang a strategaeth ddigidol, yn golygu ei bod yn ymgeisydd amlwg.
Mae bwrdd Llysgenhadon Acorn yn cael ei gadeirio gan Reolwr Buddion Cymunedol Sacyr UK, Katie Hathaway, a'i gefnogi gan aelodau o Dîm Buddion Cymunedol Canolfan Ganser newydd Felindre.
Mae ceisiadau am aelodau newydd o'r bwrdd yn dal i fod yn agored, a dylai partïon sydd â diddordeb wneud cais trwy'r ddolen ganlynol i Microsoft forms:
Ffurflen Gais Llysgenhadon Acorn – llenwi'r ffurflen
