Asset Publisher

03/12/2025

Cenhedlaeth newydd o ryfeddodau adeiladu yn ymweld â Chanolfan Ganser Newydd Felindre ar gyfer y diwrnod Cyfeillion Sacyr cyntaf

Gwahoddwyd plant tîm prosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre i’r safle i gymryd rhan yn y diwrnod Cyfeillion Sacyr UK cyntaf.

 

Trefn y dydd oedd dysgu, chwerthin, a llawer o hwyl wrth i wyth plentyn ymweld â’r prosiect i gael gwybod beth y mae eu rhieni’n ei wneud yn y gwaith trwy’r dydd, ac i ddysgu am adeiladu.

 

Dan arweiniad Jo O’Keefe, Cydlynydd Buddion Cymunedol Sacyr UK, bu i’r cyfeillion fynd ar daith o amgylch y swyddfa, cael cyfle i wisgo PPE, a dysgu am yr hyn y mae eu rhieni’n ei wneud ar brosiectau tebyg i Ganolfan Ganser Newydd Felindre. Cafodd Jo gymorth Hannah Jenkins, Cydlynydd Datblygu’r Gweithlu, a Sam Rees, Prentis Buddion Cymunedol, i dywys y plant o amgylch y safle.

 

Disgwylir y bydd Canolfan Ganser Newydd Felindre yn agor yng ngwanwyn 2027, a bydd yn cyflawni gwell canlyniadau trwy driniaeth canser o safon fyd-eang, gallu diagnostig gwell, a mwy o fynediad at arloesedd, hyfforddiant ac ymchwil.

 

Mwynhaodd y grŵp weithgareddau creadigol yn ymwneud ag adeiladu, o flociau adeiladu a lliwio i’r plant iau, i adeiladu tŵr tetrahedron gan ddefnyddio rhodenni hoelbren a bandiau elastig ar gyfer y rhai hŷn.

 

Aed ati hefyd i osod her i’r cyfeillion i weld pwy allai greu’r adeiladwaith mwyaf trawiadol gyda dim ond pasta sych ar gyfer y cynalbrennau a malws melys ar gyfer yr uniadau.

 

Cafodd y grŵp daith o amgylch y safle hefyd, gan eu galluogi i weld y prosiect yn dod yn fyw. Darparodd y Tîm Buddion Cymunedol helfa sborion i’r cyfeillion – gan osod lluniau ar hyd y llwybr i’r plant eu darganfod, a’r rheiny’n sillafu “Felindre”.

 

Heriwyd y cyfeillion hefyd i greu bomiau hadau, sef peli clai bach sy’n cynnwys pridd a hadau blodau gwyllt, ar gyfer ardaloedd gwyrdd y Ganolfan.

 

Yna, taflwyd y bomiau ar ben pentwr Maggie’s (a enwyd ar gyfer y man lle y bydd elusen Maggie’s yn cael ei lleoli ar y safle) – pentwr mawr o bridd a symudwyd yn ystod cam adeiladu cychwynnol y prosiect i ddarparu’r uwchbridd ar gyfer yr ardaloedd gwyrdd amgylchynol pan ddaw’r prosiect i ben. Bydd y bomiau hadau’n helpu i gynyddu gweithgarwch peillio a gwella bioamrywiaeth yn ystod y cyfnod adeiladu.