Academi Anabledd Derfynol yn Dechrau yng Nghanolfan Ganser Newydd Felindre – gwiriwyd gan FD
Cafodd aelodau o Academi Anabledd Gofal Iechyd Sacyr UK eu sesiwn diwtor gyntaf ddiwedd mis Medi, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yng nghynnydd yr Academi, a hynny ychydig wythnosau cyn iddynt raddio mewn digwyddiad arbennig ar 23 Hydref.
Cynlluniwyd yr Academi Anabledd Gofal Iechyd i ddod â phobl ag ystod amrywiol o anableddau a chyflyrau iechyd ynghyd i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder i ddechrau gyrfa yn y sector iechyd. Wedi’i lansio a’i chynnal gan Arweinydd y Cwrs, Dan Biddle o’r Gwasanaeth Cynghori a Chyflogaeth Amrywiaeth Cenedlaethol (NDEAS), hon yw’r drydedd o’r academïau a gynhaliwyd gan Sacyr eleni.
Mae’r cwrs gofal iechyd yn rhoi mewnwelediadau a gwybodaeth ddiwydiant am y sector i gyfranogwyr, gan eu paratoi ar gyfer y cam cyntaf ar eu gyrfa ar ôl iddynt raddio.
Cafodd yr Academïau Anabledd, sy’n cynnwys gwahanol academïau ar adeiladu ac entrepreneuriaeth, gryn effaith yn barod, gan helpu ymgeiswyr i fagu hyder proffesiynol a deall sut i baratoi i lansio busnes, a chael troed ar yr ysgol yn y maes adeiladu.
Mae’r rhaglen yn parhau i ddangos gwerth creu llwybrau cynhwysol i mewn i waith i bobl sy’n wynebu amrywiaeth o rwystrau.
Graddiodd yr holl hyfforddeion o’r cwrs ddiwedd mis Hydref hefyd, ynghyd â chyfranogwyr o’r Academïau Adeiladu ac Entrepreneuriaeth, gan nodi cwblhau’r tair rhaglen yn llwyddiannus ac amlygu’r effaith gadarnhaol y mae’r mentrau hyn wedi’i chael ar draws y gymuned.
