Llwyddiannau cyflogaeth a sgiliau yn parhau
Ar ôl graddio o'r Academi Adeiladu Anabledd, mae Mya wedi sicrhau chwe wythnos o leoliad gwaith gyda’r contractwr sy’n adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, Sacyr UK. Bydd y lleoliad hwn yn rhoi profiad gwerthfawr iddi mewn amgylchedd adeiladu byw wrth barhau i fagu ei hyder, ei sgiliau a’i gwybodaeth am y diwydiant.
Mae ei lleoliad yn enghraifft gadarnhaol arall o lwyddiant yr Academi Anabledd wrth helpu cyfranogwyr i drosglwyddo i gyfleoedd cyflogaeth ystyrlon. Ochr yn ochr â lleoliad Mya, mae gan y prosiect bellach bump o bobl ag anableddau yn cyfrannu at weithlu’r Ganolfan newydd, gan gynnwys Aash, sydd wedi ymgymryd â rôl Cynorthwyydd yr Academi Anabledd, gan amlygu ymhellach effaith hirdymor y rhaglen.
Mae’r Academi Entrepreneuriaeth Anabledd yn parhau i gyflawni canlyniadau rhagorol, gyda saith o bobl o’r academi entrepreneuriaeth bellach yn dechrau eu busnesau ac yn symud ymlaen tuag at fasnachu, gan gynnwys un sydd eisoes yn weithredol.
Mae graddedigion yn parhau i gael mentora wedi’i deilwra, cymorth datblygu busnes ac arweiniad ymarferol i helpu i sefydlu mentrau cynaliadwy. Er mwyn cefnogi’r cynnydd hwn, cyflwynodd Katie Hathaway, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Buddion Cymunedol (SECBM) Sacyr UK, nifer o weithdai grŵp a sesiynau mentora un-i-un, gan helpu cyfranogwyr yr academi gyda gwaith cynllunio busnes, rhagolygon ariannol, gwariant grant a chyflwyniadau i rwydweithiau proffesiynol gwerthfawr a chysylltiadau â’r diwydiant.
Crëwyd cyfleoedd pellach i bobl leol hefyd trwy gadwyn gyflenwi’r prosiect, gyda’r contractwr trydanol High Admit yn croesawu pedwar prentis newydd i’r prosiect. Bydd y prentisiaid yn magu profiad ymarferol gwerthfawr yn y diwydiant wrth ddatblygu sgiliau ymarferol a chymwysterau technegol, creu llwybrau newydd at gyflogaeth a chefnogi’r gweithlu yn y dyfodol. Mae’r cyflawniadau hyn yn amlygu ymrwymiad parhaus y prosiect i greu cyfleoedd hyfforddiant, cyflogaeth a datblygu gyrfa ystyrlon ar draws y gymuned leol.
