Tîm Buddion Cymunedol yn Mynd ar Deithiau Tywys o amgylch y Safle
Cafodd mwy na 200 o gyd-weithwyr y GIG daith dywys o amgylch safle prosiect Canolfan Ganser newydd Felindre yn ddiweddar. Cafodd staff, gan gynnwys staff clinigol, gwirfoddolwyr, porthorion clinigol, timau cymorth a chynrychiolwyr undebau llafur, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol, y cyfle i weld cynnydd y prosiect cyn ei gwblhau.
Cymerodd aelodau tîm Buddion Cymunedol Sacyr UK eu tro i gyflwyno gwybodaeth iechyd a diogelwch yn fras, er mwyn sicrhau bod pawb yn ddiogel ar y safle, os nad oeddent yn gwisgo cyfarpar diogelu personol. Aethpwyd â hwy o gwmpas y safle, gan fod yn ymwybodol o’r gweithlu yn gweithredu gerllaw, a chymryd gofal ychwanegol oherwydd y tywydd ac amodau heriol y ddaear ar y safle.
Rhoddwyd trosolwg i’r ymwelwyr o nodweddion allweddol y datblygiad, gan gynnwys y maes parcio tanddaearol, ystafelloedd cleifion y dyfodol a’r Lolfa, a fydd yn ganolbwynt ar dir yr ysbyty. Roedd y teithiau yn gyfle gwerthfawr i staff y GIG gael profiad o’r safle cyn ei gwblhau a chael mwy o werthfawrogiad o raddfa a chynnydd y prosiect, gyda’r adborth yn hynod gadarnhaol.
