Rhaglen Buddion Cymunedol yn ennill cydnabyddiaeth ledled Cymru
Mae’r mentrau Buddion Cymunedol sy’n cael eu sbarduno ym mhrosiect Canolfan Ganser newydd Felindre wedi cael eu canmol gan sefydliadau a chynghorwyr fel ei gilydd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mewn cyfarfod diweddar rhwng Katie Hathaway, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Buddion Cymunedol Sacyr UK a chynghorwyr lleol, Shavanah “Shav” Taj AS, ac uwch-arweinwyr o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, dangoswyd diddordeb arbennig yng ngwaith y prosiect yn cefnogi unigolion anabl a chyn-droseddwyr.
Cafodd y mentrau glod gan y rhai yn y cyfarfod am eu heffaith gadarnhaol a’u cysondeb cryf â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Yn dilyn y cyfarfod, mynegodd Shav ddiddordeb mewn hyrwyddo dull arloesol y prosiect yn ehangach a gofynnodd i’r Ysgrifennydd Gwladol ymweld â’r prosiect i ddysgu rhagor am y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud.
Amlygwyd llwyddiant y prosiect hefyd mewn digwyddiad busnes yn Siambrau Cymru a ddenodd dros 40 o fusnesau a sefydliadau o bob cwr o Gymru. Yn ystod y digwyddiad, rhoddodd Katie Hathaway brif gyflwyniad yn tynnu sylw at ddangosyddion perfformiad allweddol y prosiect, cyflawniadau Buddion Cymunedol ac enghreifftiau o gyflawni llwyddiannus – unwaith eto, gan ddangos sut y gellir cyflawni canlyniadau ystyrlon trwy weithredu, cydweithio ac ymrwymo ar y cyd i greu gwerth cymdeithasol parhaol.
Ymunodd Cydlynydd Datblygu’r Gweithlu Sacyr hefyd â thrafodaeth banel ochr yn ochr â Dan Biddle, Mentor Anabledd y prosiect o’r Gwasanaeth Cynghori a Chyflogaeth Amrywiaeth Cenedlaethol (NDEAS), gan rannu llwyddiannau’r Academïau Anabledd a phwysigrwydd cydweithio i greu cyfleoedd cynaliadwy i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
At hynny, atgyfnerthodd y prosiect ei ymrwymiad i gynhwysiant digidol trwy roddi 100 o liniaduron mewn partneriaeth ag Invisible Walls a Concept Management. Wedi’u llwytho ymlaen llaw ag adnoddau addysgol trwy blatfform cymunedol Acorn gan Sacyr UK, bydd y dyfeisiau yn cefnogi pobl sy’n gadael y carchar trwy ddarparu mynediad at gyfleoedd dysgu, cymorth cyflogadwyedd a gwasanaethau teuluol. Mae’r fenter yn rhan o genhadaeth ehangach y prosiect i chwalu rhwystrau, gwella mynediad at gyfleoedd a chreu canlyniadau cadarnhaol, hirdymor i bobl a chymunedau ledled Cymru.
