Asset Publisher

08/07/2026

Gwirfoddolwyr consortiwm Acorn yn trawsnewid llety i Llamau

Bu Stantec a Turley, dau aelod o gonsortiwm Acorn yn cydweithio fel rhan o gynllun gwirfoddoli 100 Diwrnod Sacyr UK yn y prosiect Llamau ym Margod. Yn ystod y diwrnod daeth chwe gwirfoddolwr o Stantec a phedwar o Turley at ei gilydd i gydweithio er mwyn gwella’r amgylchedd i ddefnyddwyr y gwasanaeth a’r staff. 

Trwy gydol y diwrnod, bu’r gwirfoddolwyr yn canolbwyntio ar beintio ac adfywio ardaloedd a rennir yn un o brosiectau llety â chymorth Llamau. Mae eu hymdrechion wedi helpu i drawsnewid ardaloedd a rennir yn amgylcheddau goleuach, cynhesach, a mwy croesawus i bobl ifanc sy’n defnyddio’r cyfleusterau bob dydd. 

Dywedodd Barbara Redmore, Rheolwr Partneriaethau Corfforaethol yn Llamau, ei bod yn gwerthfawrogi cyfraniad y tîm: 

“Waw! Diolch yn fawr i chi i gyd am wirfoddoli gyda ni heddiw! Roeddech yn anhygoel o garedig, cadarnhaol ac ymroddedig wrth gwblhau’r dasg dan sylw ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr eich bod wedi rhoi eich amser i helpu un o’n prosiectau llety â chymorth. Bydd ein pobl ifanc yn falch o weld eu hystafell fyw ar ei newydd wedd. Mae’n sicr yn lle cynhesach a mwy croesawus iddyn nhw dreulio eu hamser.” 

Mae’r cynllun yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall gwirfoddoli ar y cyd ei gael mewn cymunedau lleol ac yn adlewyrchu ymroddiad parhaus partneriaid y consortiwm i gefnogi prosiectau gwerth cymdeithasol sy’n helpu pobl eraill.